Genomics banner

Amdanom ni

Ynglŷn â'r GPU

Yr Uned Polisi Genomeg (GPU) yw un o'r grwpiau ymchwil hiraf yn y DU sy'n astudio goblygiadau geneteg a genomeg ar gyfer iechyd. PDC yw'r prif sefydliad academaidd yn y DU sy'n gweithio yn y maes penodol hwn


Ers 1996 mae ymchwilwyr wedi ymgymryd â rhaglenni ymchwil arloesol ynglŷn ag effaith technolegau genomeg ar ofal iechyd, yn enwedig mewn perthynas â gweithwyr iechyd proffesiynol a'r cyhoedd.

Mae'r GPU wedi gwneud cyfraniad sylweddol i ddatblygu polisi ac ymarfer mewn genomeg ar lefel genedlaethol a rhyngwladol gyda gwaith arloesol ym meysydd ymgysylltu â'r cyhoedd a hyfforddi gweithwyr iechyd proffesiynol (yn enwedig nyrsys a bydwragedd).


Ein nod yw gwneud cyfraniad sylweddol at baratoi proffesiynol, addysg gyhoeddus, ac yn y pen draw at welliannau mewn gofal drwy ddefnyddio genomeg. Rydym yn gwneud hyn drwy ein hymchwil, drwy gynhyrchu gwybodaeth newydd a chymhwyso'r wybodaeth honno i ddatblygiadau polisi ym maes iechyd ac addysg, a thrwy feithrin gallu ac arweinyddiaeth y gweithlu iechyd.



Themâu ymchwil

Mae gennym arbenigedd mewn nifer o feysydd gan gynnwys technegau consensws; datblygu fframweithiau cymhwysedd ac offer asesu sy'n seiliedig ar fatrics aeddfedrwydd; casglu a defnyddio naratif cleifion/personol; a defnyddio dulliau arloesol o weithio gyda grwpiau anodd eu cyrraedd, yn enwedig pobl ifanc.

Mae gan y GPU ddau brif faes ymholi:


  • Addysg broffesiynol ym maes iechyd, cymhwysedd a datblygu'r gweithlu
  • Dealltwriaeth y cyhoedd o geneteg/genomeg


Prosiectau allweddol

Darganfyddwch fwy am ein rhaglenni gwaith cyfredol a chwblhawyd.

Cydweithio

Mae'r GPU yn gweithio ar y cyd â llawer o unigolion a sefydliadau ledled y DU a thramor ar fentrau ymchwil ac addysg gan gynnwys Partneriaeth Genomeg Cymru a'r Rhaglen Addysg Genomeg yn Health Education England yn y DU, ac yn rhyngwladol gyda chydweithwyr yn y Gynghrair Nyrsio Genomeg Fyd-eang (G2NA) a'r Gymdeithas Ryngwladol Nyrsio mewn Geneteg (ISONG)


Hospital GettyImages-612027156.jpg

Mae'r cysylltiadau allanol cyfredol yn cynnwys:



Cysylltwch â ni

Dr Emma Tonkin

Dr Emma Tonkin, Genomics Policy Unit

Meysydd ymchwil cysylltiedig


Astudio Gyda Ni

Rydym yn croesawu ceisiadau am PhD neu astudiaeth Meistr trwy Ymchwil yn un o’n meysydd arbenigedd. Gallwch astudio ar sail amser llawn neu ran-amser, ar y campws neu o bell. Os ydych chi'n weithiwr proffesiynol gyda chorff ymchwil yn barod, efallai mai PhD fesul Portffolio yw'r llwybr i chi.